Datganiad hygyrchedd i'r gwasanaeth mewngofnodi ac adnabod DWP
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i ddwy dudalen yn y gwasanaeth GOV.UK One Login yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn unig.
Yn benodol, mae'r datganiad yn cwmpasu’r dudalen wybodaeth ‘Mewngofnodi gyda GOV.UK One Login’ a’r dudalen ‘Mae eich manylion mewngofnodi wedi’u diweddaru’. Bydd y tudalennau eraill o fewn y gwasanaeth yn cael eu cwmpasu gan ddatganiad hygyrchedd gwahanol.
Defnyddio'r gwasanaeth hwn
Mae’r wefan hon yn cael ei redeg gan DWP. Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar ran fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud cynnwys y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Materion hygyrchedd ar y gwasanaeth hwn
Nid yw’r rhannau canlynol o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw’n bosibl stopio neu newid hyd yr amseru allan pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn
Adborth a manylion cyswllt
Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn ffurf wahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- e-bostiwch IDT.Accessibility@dwp.gov.uk gyda'r ffurf rydych ei hangen. Dylech gynnwys eich manylion cyswllt a'ch hoff ddull cyswllt.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: IDT.Accessibility@dwp.gov.uk.
Y drefn gorfodaeth
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd y Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r DWP wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffuriaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.2. oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth hwn
- Wrth ddefnyddio’r tudalennau yn ystod y gwasanaeth hwn os nad ydych yn gwneud unrhyw beth am 60 munud, bydd y broses yn stopio (amseru allan) neu byddwch yn cael eich allgofnodi. Nid yw'n bosibl i addasu, ymestyn neu droi i ffwrdd yr amseru allan. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.2.1 WCAG 2.2 (Amseru Addasadwy).
Beth ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon pan fydd materion wedi’u datrys, pan fyddwn yn disgwyl iddynt cael eu datrys neu pan fydd problemau newydd yn cael eu hadnabod.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn yn Awst 2024. Fe'i hadolygwyd diwethaf yn Awst 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2024. Cynhaliwyd y profion gan ein tîm profi ein hunain o fewn Hunaniaeth ac Ymddiriedaeth, DWP Digidol.
Gwnaethom brofi'r holl dudalennau yn ein taith gwirio hunaniaeth ar-lein yn erbyn meini prawf WCAG 2.2 AA.